Rimbojam S4C:
25th October 2017
Mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Rimbojam yr Urdd yng Nghanolfan Hamdden Pontypwl bore 'ma.
Ar y cyd gyda'r Urdd, trefnodd S4C Rimbojam ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. Prif bwrpas y Rimbojam oedd hyrwyddo rhaglenni Cymraeg i blant. Mae'r disgyblion yn gyffrous iawn i weld y rhaglenni newydd sy'n dechrau dros y misoedd nesaf.
Am nawr, dyma'r rhaglenni sydd ar gael ar S4C:
Rhaglen STWNSH - bob dydd rhwng 5 a 6.
Rhaglen newyddion Ffeil am 5 bob dydd.
Rhaglen Tag - bob nos Fawrth a nos Wener am 5:05.
Rhaglen wyddonol newydd Boom - bob nos Lun am 5:05.
Pigo dy drwyn - bob dydd Iau am 5:05
Bydd rhaglenni newydd 'Cic' a 'Prosiect Z' yn dechrau ym mis Ionawr.
Os ydych chi'n colli rhaglen, gallwch ddal lan ar BBC iPlayer neu S4C Clic. (Gweler y wefan isod)
Diolch yn fawr.