Hanner Tymor:
26th October 2017
Byddwn yn gorffen ar gyfer hanner tymor yfory.
Bydd y disgyblion yn cael wythnos o wyliau ar gyfer hanner tymor a byddant yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 7fed. Bydd yr ysgol ar gau ar y dydd Llun ar gyfer diwrnod hyfforddiant staff.
Cofiwch, os ydych chi'n gwneud rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg dros hanner tymor, danfonwch neges at ein cyfrif Twitter. (@ygwmbran) Byddwn yn casglu llyfrau Siarter Iaith y disgyblion ar y dydd Mawrth.
Mwynhewch yr hanner tymor a diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth dros yr hanner tymor cyntaf.
Diolch yn fawr.