Prynhawn Agored y Siarter Iaith:
26th October 2017
Diolch i bawb ddaeth i'n prynhawn agored heddiw.
Heddiw, gwahoddwyd rhieni, gwarchodwyr ac aelodau o deuluoedd i brynhawn agored y Siarter Iaith. Cafodd Miss Davies gyfle i fynd dros ein targedau ar gyfer eleni a rhoddwyd cyfle i'r ymwelwyr ymweld ag asiantaethau gwahanol yn ymwneud â Chymraeg yn y gymuned e.e. yr Urdd, Coleg Gwent a Menter Iaith.
Daeth Seren a Sbarc i ymuno â ni yn ogystal.
Diolch i bawb.