Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

29th October 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ol hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:

Fy ....... e.e. fy mhensil / fy mag / fy nhad ayyb.
(Nid 'y pensil fi'.)

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw Lowri Evans.
Byddwn yn gwrando ar 'Merch y myny' a 'Cân Walter' yn yr ysgol.

Lliw yr wythnos i blant y feithrin yw porffor.

Dydd Llun:
Bydd yr ysgol ar gau heddiw ar gyfer diwrnod HMS.

Dydd Mawrth:

Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i'r disgyblion heddiw.

Bydd Miss Rhian James o Wynllyw yn ymweld â disgyblion blwyddyn 6 heddiw.

Ymarfer Shakespeare tan 4:30.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Cyfarfod C.Rh.A am 3:30 yn llyfrgell yr ysgol.
Croeso cynnes i bawb.

Dydd Mercher:

Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio.
(12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)

Sioe Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4.

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Noson Rieni Gwynllyw ar gyfer rhieni / gwarchodwyr blwyddyn 6.
4 o'r gloch - cyfarfod anffurfiol. / 6 o'r gloch - cyfarfod ffurfiol.

Dydd Iau:

Gall plant y feithrin ddod i'r ysgol mewn dillad porffor heddiw os ydynt yn dymuno.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.

Cystadleuaeth Rygbi a Phel-rwyd yr Urdd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
(Bydd llythyr yn cael ei ddanfon adref ar y dydd Mawrth)

Clwb Clebran ar gyfer rhieni / gwarchodwyr sy'n siarad Cymraeg.
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a magu hyder mewn sefyllfa anffurfiol.
3:30 - 4:30 yn llyfrgell yr ysgol.

Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

** Gall blant dosbarth Miss Baker wisgo dillad eu hunain i'r ysgol yfory gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Hydref. **

Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr