Gwaith cartref dros hanner tymor:
8th November 2017
Diolch yn fawr i bawb am weithio mor galed ar y gwaith cartref dros hanner tymor.
Mae wedi bod yn hyfryd gweld y disgyblion tu allan yn mwynhau'r hydref gyda'u teuluoedd. Mae hefyd wedi bod yn hyfryd gweld lluniau'r disgyblion wrthi'n gwneud eu gwaith cartref. Diolch i bawb sydd wedi rhannu'r lluniau ar gyfrif Twitter yr ysgol. (@ygcwmbran)
Cafodd y disgyblion gyfle i arddangos eu gwaith yn ystod y gwasanaeth fore ddoe ac mae'r gwaith yn mynd i gael ei arddangos yn y dosbarthiadau. Rydym hefyd wedi tynnu lluniau o'r gwaith ac wedi creu mirlun yn yr ysgol.
Diolch hefyd i'r rhai sydd wedi creu bwydydd adar; wedi gofalu am ddraenog neu wedi archwilio mewn i goed a dail gwahanol.
Diolch.