Y daith i flwyddyn 7:
8th November 2017
Daeth Miss James, pennaeth blwyddyn 7 i ymweld â disgyblion blwyddyn 6 ddoe.
Cyflwynwyd y disgyblion i Miss James, pennaeth cynnydd blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gwynllyw. Roedd yn gyfle i'r disgyblion wylio fideo ar daith blwyddyn 7 i Lan-llyn ychydig wythnosau yn ôl. Roedd hi'n hyfryd gweld ein cyn disgyblion yn mwynhau gyda'u ffrindiau newydd.
Dyma ddechrau'r daith i flwyddyn 7 a bydd nifer fawr o gyfleoedd yn ystod y flwyddyn i ymweld â Gwynllyw ar gyfer gweithgareddau gwahanol.
Mae cyfarfod i rieni / gwarchodwyr blwyddyn 6 yng Ngwynllyw heno. Ceir cyfarfod anffurfiol am 4 o'r gloch a chyfarfod ffurfiol gyda'r pennaeth newydd, Miss Elan Bolton am 6 o'r gloch.
Er mwyn ymweld â gwefan Gwynllyw, ewch i'r linc isod.
Diolch yn fawr.