Cystadleuaeth Rygbi a Phêl-rwyd yr Urdd:

Cystadleuaeth Rygbi a Phêl-rwyd yr Urdd:

9th November 2017

Mae'r timoedd rygbi a phêl-rwyd wedi mwynhau chwarae yng Nghwm Rhymni heddiw.

Aeth dros ugain o ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni heddiw i gymryd rhan yng nghystadleuaeth rygbi a phêl-rwyd yr Urdd, rhanbarth Gwent.

Cafodd y disgyblion i gyd eu canmol yn fawr gan Mr Dobson a Miss Westphal, am chwarae'n dda ac am eu hymddygiad trwy'r dydd.

Da iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr