Trefniadau’r Wythnos:
9th November 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Wythnos Gwrth-fwlio: Byddwn yn gwneud nifer fawr o weithgareddau a gwersi yn ymwneud â bwlio ac ymddygiad derbyniol yn ystod yr wythnos. **
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Maen nhw .....
(Nid 'rydyn nhw')
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw Eadyth.
Byddwn yn gwrando ar 'Achub a 'Paid a gadael' yn yr ysgol.
Lliw yr wythnos i blant y feithrin yw du.
Dydd Llun:
Gwasanaeth Gwrthfwlio.
Ymarfer Shakespeare o 3:30 tan 6.
(Gall y disgyblion ddod â byrbryd gyda nhw ar gyfer yr ymarfer. Gweler y llythyr yn y rhan 'llythyron adref')
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.
Trip blwyddyn 4 i Big Pit.
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod â phecyn cinio os gwelwch yn dda. Gwisg ysgol gydag esgidiau ymarfer corff.
Ymarfer Shakespeare tan 4:30.
Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)
Dydd Mercher:
Bydd PC Thomas yn ymweld â disgyblion blwyddyn 4 bore 'ma. (09:10 - 10)
Gwasanaeth STEM.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio.
(12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Ymarfer Shakespeare yn Theatr Glan yr afon, Casnewydd o 1 ymlaen.
Bydd y disgyblion sy'n perfformio yn aros yn y Theatr tan y perfformiad am 7pm.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron adref' am fwy o wybodaeth)
Sesiwn bêl-droed ar gyfer dosbarth Mrs Haman gyda Chlwb pêl-droed Casnewydd
(1 - 2:30)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Dydd Iau:
Gan fod disgyblion blwyddyn 3 ar drip ysgol yfory, mae croeso iddynt wisgo eu pyjamas / gwisg anffurfiol i'r ysgol heddiw ar gyfer Plant Mewn Angen.
Gall plant y feithrin ddod i'r ysgol mewn dillad du heddiw os ydynt yn dymuno.
Bydd gwyddonydd mewn yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 6 bore 'ma.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.
Cyfarfod Arweinwyr Digidol gydag Arweinwyr Digidol Ysgol Bryn Onnen a Phanteg.
(1-2:30 yn yr ysgol.)
Clwb Clebran ar gyfer rhieni / gwarchodwyr sy'n siarad Cymraeg.
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a magu hyder mewn sefyllfa anffurfiol.
3:30 - 4:30 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Diwrnod Plant Mewn Angen:
Mae cyngor yr ysgol wedi penderfynu ein bod am godi arian trwy wisgo pyjamas i'r ysgol.
Gofynnwn am gyfraniad tuag at Plant Mewn Angen.
Trip blwyddyn 4 i Big Pit.
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod â phecyn cinio os gwelwch yn dda. Gwisg ysgol gydag esgidiau ymarfer corff.
Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)
Diolch yn fawr.