Her Brwsio Dannedd:

Her Brwsio Dannedd:

10th November 2017

Heno, bydd y disgyblion yn derbyn llythyr am ein her brwsio dannedd.

Yn dilyn taith blynyddoedd 5 a 6 i Ganolfan Ddŵr Cilfynydd, rydym wedi penderfynu cymryd rhan mewn her arbed dŵr. Wythnos nesaf, bydd pob dosbarth yn cymryd rhan yn yr her. Dyma gopi o'r llythyr gan ddisgyblion blwyddyn 6:

Annwyrl Rieni/Gwarchodwyr,

Rydw i’n ysgrifennu atoch heddiw i son am broblem sydd o’n cwmpas sef gwastraffu dŵr. Yn ddiweddar, aeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i Ganolfan Ddŵr Cilfynydd a gwelon ni faint o ddŵr sy’n cael ei wastraffu bob dydd.

Fel ysgol, rydyn ni eisiau helpu’r amgylchedd trwy peidio gwastraffu dŵr. Sut ydyn ni am wneud hwn? I ddechrau, rydych yn gallu troi y dwr bant pan rydych yn golchi eich dannedd. Mae llawer o bobl yn gadael y tap i redeg pan maen nhw’n golchi dannedd ac mae hwn yn gwastraffu LLAWER o ddwr. Os gwelwch yn dda, trowch y tap bant pan nad ydych yn ei ddefnyddio. Rydych chi yn golchi eich danedd am tua 2 funud felly mae dwr yn cael gwastraffu am 2 funud hefyd ac mae hwnna yn llawer o ddwr! Wythnos nesaf, bydd swyddog ym mhob dosbarth yn gofyn wrth y plant os ydyn nhw wedi rhoi’r dwr i ffwrdd cyn golchi dannedd bob bore a phob nos.

Byddwn yn cadw cofnod o hwn yn y dosbarth ac yn ei ddanfon at Dŵr Cymru. Pob lwc i bawb a diolch am eich help!

Diolch, Amelia Ellis a Charlotte Sweeting.

Diolch o flaen llaw am eich cymorth.


^yn ôl i'r brif restr