Diolch yn fawr, John:

Diolch yn fawr, John:

10th November 2017

Yn anffodus, mae John, sydd wedi bod yn hyfforddi hoci yn yr ysgol, yn symud i ffwrdd o'r ardal.

Mae John Burrows wedi bod yn hyfforddi disgyblion blwyddyn 6 ar brynhawn dydd Gwener am bron i ddeng mlynedd bellach. Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am ei waith caled i ddatblygu sgiliau'r disgyblion; mae llawer iawn ohonynt wedi elwa o'i gael yn yr ysgol. Mae wedi bod yn hyfryd gweld sgiliau'r disgyblion yn gwella o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad John.

Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr iawn ond rydym yn dymuno pob lwc iddo yn ei fywyd newydd.

Diolch, John.


^yn ôl i'r brif restr