Wythnos Gwrth-fwlio yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
13th November 2017
Yn ystod yr wythnos, byddwn yn gwneud gwahanol weithgareddau er mwyn hyrwyddo ymddygiad derbyniol.
Ar draws y wlad, mae ysgolion yn dathlu wythnos gwrth-fwlio. Yn ystod yr wythnos, byddwn yn gwneud gwahanol weithgareddau yn ymwneud â bwlio a byddwn yn hyrwyddo ymddygiad derbyniol, yn yr ysgol a thu hwnt iddi.
Dechreuodd y diwrnod heddiw gyda phob dosbarth yn gwneud sesiwn gylch ar gwrth-fwlio a chafwyd gwasanaeth ysgol gyfan gan Mrs Dalgleish.
Edrychwn ymlaen at weld gwaith y disgyblion yn ystod yr wythnos.
Diolch.