Arddangosfa Gelf Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Arddangosfa Gelf Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

13th November 2017

Bydd arddangosfa gelf yn cael ei chynnal yn yr ysgol ar ddydd Mercher, Tachwedd 22ain.

Mae’r disgyblion wrthi’n brysur yn creu darnau celf godidog, ac rydym yn sicr y byddwch wrth eich boddau pan welwch eu lluniau hyfryd. Mae’r achlysur arbennig hwn yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ysgol ac rydym ni’n gwybod y bydd y plant wrth eu boddau yn dangos eu gwaith. Bydd y lluniau yn cael eu fframio a’u harddangos yn broffesiynol, er mwyn i chi gerdded o gwmpas ein horiel gelf.

Bydd gwaith celf eich plentyn ar gael i’w brynu a bydd canran o’r elw yn mynd tuag at yr ysgol. Mae’n gyfle i chi fynd adre â chofnod gwerthfawr o waith eich plentyn neu efallai y gallech ei roi fel anrheg i aelod o’r teulu. Pris y lluniau wedi’u fframio fydd £10.00 yr un.

Nid oes rhaid prynu’r lluniau, ond os ydych chi’n bwriadu dod am dro, bydd yr arddangosfa rhwng
3:00 yh a 5:00yh ar ddydd Mercher yr 22ain o Dachwedd. Ni fydd yr arddangosfa yn achlysur blynyddol, felly dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.


^yn ôl i'r brif restr