Plant Mewn Angen (17.11.2017)
13th November 2017
Byddwn yn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen ddydd Gwener.
Dyma'r llythyr a ddanfonwyd allan gan Gyngor yr Ysgol:
Annwyl Rieni / Warchodwyr,
Ar y 17eg o Dachwedd mae’n ddiwrnod Plant Mewn Angen. Fel Cyngor, rydyn ni’n gofyn i chi ddanfon eich plentyn i’r ysgol mewn pyjamas. Gall y plant wisgo dillad anffurfiol yn lle os ydyn nhw eisiau.
Hefyd rydyn ni’n gofyn yn garedig os ydych chi’n gallu dod â rhodd o £1 sy’n mynd i’r elusen.
Diolch yn fawr.