Diwrnod Oes Fictoria Cyfnod Allweddol 2:
15th November 2017
Ar ddydd Mercher, Tachwedd 29ain, byddwn yn cynnal Diwrnod Oes Fictoria yn yr ysgol.
Bydd llythyr yn cael ei ddanon adref gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yfory. (Blwyddyn 3 - blwyddyn 6)
Dyma gopi o'r llythyr:
Diwrnod Oes Fictoria – Dydd Mercher, Tachwedd 29ain:
Annwyl Riant / Warchodwr,
Ar ddydd Mercher, y 29ain o Dachwedd, byddwn yn cynnal diwrnod Oes Fictoria yn yr ysgol. Yn ystod y diwrnod, byddwn yn atgyfnerthu’r holl waith rydym wedi’i wneud yn ystod y tymor yn seiliedig ar Oes Fictoria. Byddwn yn gwneud gwaith darllen, Mathemateg a llawysgrifen yn bennaf ar y diwrnod, er mwyn adlewyrchu diwrnod nodweddiadol yn yr ysgol yn ystod y cyfnod. Mae croeso i’r disgyblion ddod i’r ysgol wedi gwisgo fel person neu blentyn o Oes Fictoria neu gallant wneud arwydd y ‘WN’ ayyb i’w wisgo ar y dydd.
Gallant hefyd wisgo fel person enwog neu ddyfeiswr/wraig o’r cyfnod. Defnyddiwch eich dychymyg!
Diolch am eich cydweithrediad,
Staff CA2.