Ble Mae Fy Iglw Wedi Mynd?

Ble Mae Fy Iglw Wedi Mynd?

15th November 2017

Mae rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn gweithio'n galed yn paratoi ar gyfer y sioe 'Ble Mae Fy Iglw Wedi Mynd?' sydd ymlaen yn yr ysgol wythnos nesaf.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r disgyblion wedi bod yn brysur yn gwneud galwadau ffôn; maen nhw wedi bod yn gwneud posteri a thocynnau ad maen nhw hefyd wedi bod ynghlwm â gwerthu tocynnau ar gyfer y ddrama. Bydd y sioe yn cael ei pherfformio ddydd Iau nesaf am 5.30. Maen nhw hefyd wedi danfon llawer o wahoddiadau drwy'r post.

Estynnir croeso cynnes i bawb i weld y ddrama. Gweler y poster am fwy o fanylion.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr