Perfformiad o ddrama Shakespeare, A Midsummer Night's Dream:

Perfformiad o ddrama Shakespeare, A Midsummer Night's Dream:

16th November 2017

Da iawn i rai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 am eu perfformiad gwych yn Theatr Glanyrafon neithiwr.

Dros y misoedd diwethaf, mae'r disgyblion wedi bod yn ymarfer yn galed iawn ar gyfer y perfformiad. Maen nhw wedi bod yn aros bob nos Fawrth ac maen nhw hyd yn oed wedi ymarfer dros hanner tymor.

Roedd pawb yn wych yn perfformio ac rydym yn falch iawn o bob un. Diolch yn fawr iddynt am weithio mor galed a diolch yn fawr i Miss Hughes a Mrs Griffiths-Jones am eu holl waith caled gyda'r disgyblion.

Am brofiad bythgofiadwy!


^yn ôl i'r brif restr