Cyfarfod gydag Ysgol Panteg ac Ysgol Bryn Onnen:

Cyfarfod gydag Ysgol Panteg ac Ysgol Bryn Onnen:

16th November 2017

Daeth Arweinwyr Digidol Panteg a Bryn Onnen i'r ysgol prynhawn 'ma.

Mae'r ysgol, ynghyd ag Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Panteg, wedi ennill bid er mwyn dechrau clwb codio yn yr ysgolion. Mae'r Arweinwyr Digidol wedi trefnu cyfarfod gyda'r ddwy ysgol heddiw ac rydym wedi dechrau trafod gweithgareddau'r flwyddyn. Roedd syniadau gwych gyda phawb heddiw.

Yn ystod y flwyddyn, bydd y disgyblion a'r staff yn derbyn hyfforddiant ar yr elfen o godio; byddwn yn prynu adnoddau er mwyn helpu gyda chodio a byddwn yn cynnal cyfarfodydd yn yr ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb i godio ar draws yr ysgolion. Rydym hefyd yn gobeithio datblygu cyswllt rhwng yr ysgolion ac Ysgol Gyfun Gwynllyw hefyd.

Rydym i gyd yn gyffrous iawn ar gyfer y prosiect.


^yn ôl i'r brif restr