Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

16th November 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:

weithiau (yn hytrach na ‘rhai weithiau’)

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw Adwaith.
Byddwn yn gwrando ar 'Lipstick coch' a 'Haul' yn yr ysgol.

Lliw yr wythnos i blant y feithrin yw gwyn.

Dydd Llun:

Bydd disgyblion COMIT yn ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth heddiw.

Jambori'r Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 4.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion a gwisg ysgol os gwelwch yn dda.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)

Ymarfer cor tan 4:30.

Imiwneiddio Flu - disgyblion derbyn hyd at flwyddyn 4.

Clwb Coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:

Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio.
(12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Arddangosfa Gelf yn neuadd yr ysgol rhwng 3 a 5.
Bydd gwaith celf y disgyblion yn cael ei arddangos yn neuadd yr ysgol. Bydd cyfle gyda chi i brynu'r gwaith celf ar y noson neu o flaen llaw.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.)

Dydd Iau:

Gall plant y feithrin ddod i'r ysgol mewn dillad gwyn heddiw os ydynt yn dymuno.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.

Cor Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.

Clwb Clebran ar gyfer rhieni / gwarchodwyr sy'n siarad Cymraeg.
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a magu hyder mewn sefyllfa anffurfiol.
3:30 - 4:30 yn llyfrgell yr ysgol.

Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Drama 'Ble Mae Fy Iglw?' yn yr ysgol am 5:30.
Tocynnau - £5 i oedolion a £3.50 i blant.
Croeso cynnes i bawb.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)

Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr