Jambori'r Urdd:

20th November 2017
Aeth disgyblion blwyddyn 4 i Jambori'r Urdd heddiw.
Aeth y disgyblion, gydag ysgolion eraill o'r ardal, i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd bore 'ma. Cawson nhw gyd amser gwych yn cael eu diddanu yn y Gymraeg. Cawsant gyfle i ganu a chymdeithasu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg hefyd.
Diolch i Miss Williams a Mrs Griffiths-Jones am fynd â'r disgyblion.
Diolch.