Trefniadau'r Wythnos:

23rd November 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
y defnydd o’r gair ‘gormod’ (Yn hytrach na ‘rhy gormod’)
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw Calan. Byddwn yn gwrando ar ‘Pe cawn i hon’ a ‘Kân’ yn yr ysgol.
Lliw yr wythnos i blant y feithrin yw brown.
Dydd Llun:
Sioe Mewn Cymeriad – y Mimosa – i ddisgyblion CA2.
Dydd Mawrth:
Bydd plant y derbyn yn mynd i weld sioe CYW heddiw yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
(Gwisg ysgol os gwelwch yn dda.)
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)
Dydd Mercher:
Diwrnod Oes Fictoria ar gyfer disgyblion CA2 – gall y disgyblion ddod i’r ysgol wedi gwisgo fel person o gyfnod Oes Fictoria os ydynt yn dymuno.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Dydd Iau:
Gala Nofio’r Urdd yng Nghanolfan Hamdden Pontypwl rhwng 9:15 a 1:30.
Bydd plant blynyddoedd 1 a 2 yn mynd i weld sioe ‘Hud y Crochan Uwd yn y Sherman yng Nghaerdydd heddiw. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda. (Gwisg ysgol)
Gall plant y feithrin ddod i'r ysgol mewn dillad brown heddiw os ydynt yn dymuno.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Diwrnod Gwisg Anffurfiol:
Gofynnwn yn garedig am eitemau ar gyfer Ffair Nadolig yr ysgol.
Dyma restr o rai o'r pethau y byddwn yn eu hoffi:
Plant y feithrin / derbyn - Llyfrau lliwio / pensiliau
Blynyddoedd 1 a 2 - pecynnau o losin / siocled
Blynyddoedd 3 a 4 - tuniau / bwyd
Blynyddoedd 5 a 6 - llyfrau
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes. (09:10 - 10:10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)