Ble Mae Fy Iglw Wedi Mynd?

24th November 2017
Llongyfarchiadau mawr i'n hyrwyddwyr ifanc ar eu gwaith ar gyfer drama neithiwr.
Neithiwr, daeth actorion o gwmni 'The Bone Ensemble' i gyflwyno drama arbennig gyda neges bwysig iawn am gynhesu byd eang. Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r disgyblion wedi bod yn brysur iawn yn gweithio ar brosiect i hyrwyddo'r ddrama, gan ysgrifennu llythyron, posteri a chyflwyniadau.
Diolch yn fawr iddynt am eu holl waith caled dros yr wythnosau diwethaf a diolch i Mrs Stockman a Nia o gwmni Noson Allan am eu holl waith hefyd.
Da iawn i bawb.