Cystadleuaeth yr Eco-bwyllgor:

2nd December 2017
Gosodwyd her i'n disgyblion gan aelodau'r eco-bwyllgor.
Bob wythnos, mae bob dosbarth yn derbyn pwyntiau am droi'r golau, gliniaduron, y tapiau a'r byrddau gwyn ayyb i ffwrdd. Mae aelodau'r eco-bwyllgor yn mynd o gwmpas yr ysgol yn ddyddiol ac yn rhoi pwyntiau i bob dosbarth. Ar ddiwedd yr wythnos, mae'r dosbarth gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau yn ennill ein masgot eco-bwyllgor ar gyfer yr wythnos.
Penderfynodd yr aelodau bod y masgot angen enw a phenderfynwyd mai'r enw buddugol oedd Egni.
Da iawn.