Ein Hymgyrch Nadolig - y Banc Bwyd

Ein Hymgyrch Nadolig - y Banc Bwyd

4th December 2017

Daeth y disgyblion â llythyr adref gyda nhw heno, yn amlinellu ein hymgyrch Nadolig.

Ychydig o wythnosau yn ôl, aeth y Prif Swyddogion i ymweld â'r Banc Bwyd lleol a dyma'r hyn ysgrifennon nhw adref i rieni / gwarchodwyr heno:

Annwyl Riant / Warchodwr,

Fel rydych yn gwybod, rydyn yn cynnal diwrnod siwmper Nadoligaidd ar ddydd Gwener, Rhagfyr 15fed. Rydym yn gobeithio gwneud rhywbeth tebyg i’r hyn gwnaethom ni llynedd sef rhoi cyfraniadau o duniau i’r banc bwyd lleol. Ychydig o wythnosau yn ôl, aethon ni i ymweld ag Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghwmbrân er mwyn gweld sut mae’r banc bwyd yn gweithio. Mae banc bwyd ar gael i bobl leol bob diwrnod yn ystod yr wythnos ac, ar ddydd Mercher, cynhelir banc bwyd yn Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth ar Wesley Street.

Llynedd, yn ogystal â darparu tuniau i’r banc bwyd, gwnaethom ni ddarparu nwyddau ymolchi mewn bagiau ar gyfer pobl lai ffodus na ni a’r digartref. Gyda chyfraniadau hael y disgyblion a’r staff yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân, cyfrannon ni 40 bag llawn nwyddau ymolchi.

Ar y 15fed o Ragfyr, mae croeso i’r disgyblion wisgo siwmper / addurn Nadoligaidd a gofynnwn yn garedig am gyfraniad o un o’r canlynol: cyfraniad o fwyd ar gyfer y banc bwyd (gweler y syniadau isod), cyfarniad o nwyddau ymolchi ar gyfer y bagiau (gweler y syniadau isod) neu gyfraniad ariannol ar gyfer Achub y Plant.

Bwyd i’r banc bwyd: Y math o fwydydd sydd fel arfer yn cael eu cynnwys mewn pecyn yn y banc bwyd yw llaeth UHT, sudd oren, te neu goffi, siwgr, pasta, grawnfwydydd, tuniau cig a physgod, tuniau o lysiau, tuniau o ffa pob a thomatos, saws pasta a bisgedi.

Mae’r bagiau rydym yn gobeithio eu gwneud yn cynnwys: shampw, sebon, past dannedd, brws dannedd, brws, rôl papur tŷ bach, diaroglydd a ‘wipes’.

Rydym yn gwerthfawrogi bod yr amser hwn o’r flwyddyn yn un drud iawn felly peidiwch mynd i ormod o drafferth. Mae unrhyw gyfraniad, boed yn fach neu’n fawr, yn help mawr a bydd yn mynd yn bell i helpu pobl sy’n llai ffodus na ni dros gyfnod y Nadolig.

Mae'r prif swyddogion wedi ysgrifennu at bum siop leol hefyd er mwyn cael eu cefnogaeth nhw hefyd.

Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.


^yn ôl i'r brif restr