Arolwg o'r tapiau yn yr ysgol:
4th December 2017
Mae aelodau'r Eco-bwyllgor wedi cynnal arolwg o holl dapiau'r ysgol heddiw.
Aeth y disgyblion o gwmpas yr ysgol heddiw, o'r tai bach i'r ystafelloedd dosbarth ac o'r 'stafell athrawon i'r gegin. Edrychon nhw ar y tapiau gwahanol a, dros y diwrnodau nesaf, byddant yn ysgrifennu adroddiad i'r gofalwr fel ein bod ni'n gallu trwsio unrhyw dapiau sy'n gollwng.
Da iawn!