Ymgyrch Nadolig yr ysgol:

Ymgyrch Nadolig yr ysgol:

6th December 2017

Rydym wedi penderfynu cefnogi ein banc bwyd lleol y Nadolig hwn.

Ychydig o wythnosau'n ôl, aeth ein prif swyddogion i ymweld ag Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth ar Wesley Street er mwyn gweld sut mae'r banc bwyd yn gweithio yno.

Rydym wedi penderfynu rhedeg ymgyrch Nadolig i roi tuniau, bwyd a nwyddau 'molchi i'r banc bwyd. Mae'r prif swyddogion wedi danfon llythyron at siopau lleol yn ogystal, er mwyn gofyn iddynt gefnogi'n hymgyrch. Heddiw, roeddem yn ddiolchgar iawn i dderbyn cyfraniad hael iawn gan Wilkinsons. Bydd y nwyddau'n mynd yn bell i helpu teuluoedd lleol.

Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion gyfrannu eitem ar ein Diwrnod Siwmper Nadolig ddydd Gwener nesaf.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr