Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th December 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Gan i fynd?

Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw Swnami. Byddwn yn gwrando ar ‘Mewn Lliw a ‘Trwmgwsg’ yn yr ysgol.

** Wythnos Menter a Busnes / Rhifed ar draws y cwricwlwm – Bydd y disgyblion yn gwneud gweithgareddau gwahanol yn ystod yr wythnos. **

Dydd Mawrth:

Gweithdy STEM ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 yn yr ysgol.
Bydd côr y BBC yn mynd i Ganolfan y Mileniwm am ymarfer bore ‘ma. (Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)

Dydd Mercher:

Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn mynd i ymarfer yn yr Eglwys bore ‘ma felly bydd angen côt law ar bob un os gwelwch yn dda. (Bydd y disgyblion yn ol mewn amser ar gyfer cinio.) **WEDI'I OHIRIO**
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Bydd cinio Nadolig yn opsiwn ar gyfer cinio poeth heddiw.
Gwasanaeth Nadolig y Cyfnod Sylfaen:
AM – rhieni / gwarchodwyr meithrin y bore a blwyddyn 1
PM - rhieni / gwarchodwyr meithrin y bore a blwyddyn 2
Noson ffilm y PTA rhwng 6 ac 8. Pris mynediad yw £3 a bydd popcorn a diod i bawb hefyd.

Dydd Iau:

Dim gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.
Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn mynd i ymarfer yn yr Eglwys prynhawn ‘ma felly bydd angen côt law ar bob un os gwelwch yn dda.
Gwasanaeth Nadolig y Cyfnod Sylfaen:
AM – rhieni / gwarchodwyr y derbyn
Gwasanaeth Nadolig Cyfnod Allweddol 2:
Eglwys St. Gabriel am 6yh.
(Byddwn yn cwrdd â’r disgyblion yno am 5:45)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes. (09:10 - 10:10)
Diwrnod Siwmper / Addurn Nadoligaidd: Gofynnwn yn garedig am gyfarniad o un o’r canlynol: bwyd/tuniau ar gyfer y banc bwyd / nwyddau ymolchi ar gyfer bagiau i’r banc bwyd neu gyfraniad ariannol tuag at Achub y Plant.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw er mwyn cymryd rhan yn y gwasanaeth Nadolig yno rhwng 10 a 12. (Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol ar gyfer cinio.) **WEDI'I OHIRIO**


^yn ôl i'r brif restr