Trefniadau'r Wythnos:
15th December 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Yn fy mag (yn hytrach na ‘mewn’ fy mag.)
Band yr Wythnos:
Band yr wythnos yw Casi Wyn. Byddwn yn gwrando ar ‘Hela’ a ‘Pam fod adar yn symud i fyw?’
Dydd Llun:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Brifysgol Caerdydd heddiw. Bydd angen pecyn cinio a gwisg ysgol ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Extravaganza Nadolig y G.Rh.A – 6:30 yn neuadd yr ysgol.
Dydd Mercher:
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Dydd Iau:
Dim gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.
Parti Nadolig – gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad parti os ydynt yn dymuno. (£2 ar gyfer bwyd parti)
Sesiynau Ffa La La ar gyfer y Cyfnod Sylfaen.
Dydd Gwener:
Diwedd tymor. Bydd ysgol yn ail ddechrau i’r disgyblion ar ddydd Mawrth, Ionawr 9fed.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB.