Carolau'r Ŵyl:

17th December 2017
Cymerodd côr yr ysgol ran yng nghyngerdd 'Carolau'r Ŵyl' yn Neuadd Dewi Sant ddoe.
Teithiodd 26 disgybl i Gaerdydd ddoe er mwyn perfformio mewn cyngerdd a drefnwyd gan y BBC. Mae'r disgyblion wedi bod yn brysur yn ymarfer am fisoedd ac roeddent yn ddigon lwcus i ganu gyda chorws y BBC ac aelodau o gerddorfa'r BBC. Perfformiodd y disgyblion yn wych ac, unwaith eto, rydym yn falch iawn ohonyn nhw i gyd.
Diolch i bawb am eu holl waith caled a diolch i rieni, gwarchodwyr ac aelodau teulu am ddod i gefnogi.
Diolch yn fawr.