Yr ardal leol:

17th January 2018
Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn canolbwyntio ar yr ardal leol yn ystod y tymor hwn.
Thema disgyblion CA2 y tymor hwn yw'r ardal leol. Dros y misoedd nesaf, bydd y disgyblion yn darganfod gwybodaeth am bethau gwahanol yn yr ardal leol. Bydd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn canolbwyntio ar goedwigoedd lleol a bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn canolbwyntio ar y gamlas sy'n rhedeg trwy Gwmbrân.
Tro dosbarth Mr Bridson oedd hi ddoe i ymweld â'r gamlas a gweld pa fywyd gwyllt oedd yn byw yno. Bydd nifer fawr o ymweliadau â'r ardal leol dros y misoedd nesaf.
Diolch.