Gweithdai Ffa La La:

18th January 2018
Bydd plant o'r feithrin hyd at flwyddyn 1 yn derbyn gweithdai creadigol gyda Ffa La La bob dydd Iau y tymor hwn.
Bob dydd Iau, bydd plant o'r feithrin i flwyddyn 1 yn cymryd rhan mewn gweithdai cerddorol a chreadigol Ffa La La. Mae pob gweithdy yn cael ei gynllunio'n fanwl a'i addasu i thema'r dosbarth ar gyfer yr hanner tymor. Mae'r plant i gyd wedi mwynhau'r sesiynau cyntaf ac maen nhw'n edrych ymlaen at weddill y sesiynau.
Diolch i Carys Gwent o Ffa La La am ei holl waith caled.