Pleidlais gan aelodau'r Cyngor Ysgol:
26th January 2018
Wythnos nesaf, rydym yn mynd i gael tri chynhwysydd iard newydd yn yr ysgol.
Bydd tri chynhwysydd newydd yn ein cyrraedd ni wythnos nesaf, diolch i Mud Kitchens Cardiff. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i storio offer ar y tair iard sydd yn yr ysgol; un ar iard y Cyfnod Sylfaen, un ar iard blynyddoedd 3 a 4 ac un ar iard blynyddoedd 5 a 6.
Penderfynodd aelodau'r Cyngor Ysgol eu bod am gynnal pleidlais er mwyn trefnu'r offer byddwn yn archebu ar gyfer y cynhwyswyr. Byddant yn trafod gyda'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon gan fod yr arian a godwyd gan y Gymdeithas yn ddiweddar yn mynd tuag at brynu offer iard newydd.
Diolch yn fawr i'r Cyngor Ysgol ac edrychwn ymlaen at weld ein cynhwyswyr wythnos nesaf.
Er mwyn gweld mwy o waith gan Mud Kitchens, ewch i'r wefan isod.
Diolch.