Drama Mewn Cymeriad:
8th February 2018
Diolch yn fawr iawn i Llion am roi cyflwyniad arbennig i'r disgyblion am hanes yr iaith Gymraeg.
Mae'r iaith Gymraeg wedi brwydroyn erbyn sawl her yn y gorffennol a, gyda Llion bore 'ma, dysgon ni am rai o'r rhwystrau hynny. Dysgon ni am hanes yr iaith Gymraeg, o'r Celtiaid i hanes y 'Welsh Not' ac o'r ysgol Gymraeg gyntaf i gyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg gan William Morgan yn 1588.
Gyda tharged y llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gobeithiwn yn fawr fod perfformiad bore 'ma wedi ysbardun disgyblion i barhau i siarad a gwarchod ein hiaith fregus.
Diolch yn fawr.