Gweithdy Celf blynyddoedd 3 a 4:
![Gweithdy Celf blynyddoedd 3 a 4:](/images/articles/image_3067_1518374872.jpg)
11th February 2018
Mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 eu gweithdy celf gyda chwmni CreaSion ddydd Gwener.
I gyd-fynd gyda Dydd Miwsig Cymru, cafodd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 weithdy celf yn seiliedig ar gerddoriaeth ac offerynnau cerddorol. Cafodd pob disgybl gyfle i ddyfeisio offeryn newydd eu hunain a rhoddodd Sion y cyfan at ei gilydd mewn darn o gelf.
Diolch i'r disgyblion am weithio mor galed yn ystod y diwrnod.