Gwasanaeth a gweithdai Dogs Trust:

14th February 2018
Diolch i Claire o Dogs Trust am ddod mewn i siarad gyda'r disgyblion bore 'ma.
Cawsom wasanaeth ysgol gyfan bore 'ma gyda Claire oedd yn trafod sut i ofalu am gŵn yn synhwyrol a beth i'w wneud os ydyn ni'n gweld ci ar ben ei hun.
Cafodd disgyblion blwyddyn 3 weithdai yn eu dosbarthiadau ar sut mae synhwyrau cŵn yn wahanol i'n rhai ni. Diolch yn fawr i Claire - mae'r disgyblion, a'r athrawon, wedi dysgu llawer!
Am fwy o wybodaeth am Dogs Trust, gweler y wefan isod.
Diolch.