Hanner Tymor:

16th February 2018
Byddwn yn gorffen ar gyfer wythnos o wyliau hanner tymor heddiw.
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Chwefror 26ain.
Dyma rai digwyddiadau sy'n dod lan yn yr wythnosau cyntaf ar ôl hanner tymor:
(Rydych eisioes wedi derbyn llythyr amdanyn nhw.)
Dydd Mercher, Chwefror 28ain:
Cystadleuaeth teipio ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6. Gall y disgyblion ymarfer eu sgiliau teipio dros yr hanner tymor.
Dydd Iau, Mawrth 1af:
Dydd Gŵyl Dewi: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo yn eu dillad traddodiadol / cit rygbi Cymru / cit pêl-droed Cymru ayyb.
Dydd Llun, Mawrth 5ed:
Diwrnod y Llyfr: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr os ydynt yn dymuno.
Nos Lun a nos Fawrth, Mawrth 5ed a 6ed:
Nosweithiau rhieni - mae llythyron wedi cael eu danfon adref yn barod ar gyfer y nosweithiau rhieni.
Mwynhewch y gwyliau.
Diolch.