Cynhadledd Ddwyieithrwydd y GCA:

15th March 2018
Aeth pedwar o ddisgyblion blwyddyn 6 i gyflwyno yn y gynhadledd bore 'ma.
Roedd y gynhadledd ddwyieithrwydd yn llwyfan i ysgolion gwahanol i drafod dwyieithrwydd a rhoddodd disgyblion o ysgolion gwahanol gyflwyniadau ar rai o'r pethau maen nhw wedi bod yn eu gwneud i hyrwyddo dwyieithrwydd. Roedd Ian Gwyn Hughes o'r FAW yno hefyd er mwyn trafod beth mae ef a charfan pêl-droed Cymru wedi bod yn ei wneud i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.
Aeth rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Miss Davies i roi cyflwyniad am ein gwaith gyda'r Siarter Iaith. Gweithiodd y disgyblion yn galed iawn a dangoson nhw ffilm fer roedden nhw wedi'i chreu ar gyfer dangos rhai o'r pethau rydyn ni wedi bod yn eu gwneud yn yr ysgol.
Da iawn i bawb.