Trefniadau'r Wythnos:
22nd March 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Wythnos ola'r tymor. Fydd dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **
Byddwn yn casglu wyau Pasg neu gyfraniad ariannol tuag at y banc bwyd lleol erbyn dydd Llun os gwelwch yn dda.
Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Omaloma.
Byddwn yn gwrando ar 'Aros o gwmpas' ac 'Eniwe'.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw'r defnydd o ferfau ar ddechrau brawddeg e.e. 'Gwelais' ac 'Es i' ayyb.
Dydd Llun:
Gweithdy Ailgylchu ar gyfer disgyblion blwyddyn 5.
Dydd Mawrth:
Prynhawn agored ar gyfer rhieni / gwarchodwyr Cyfnod Allweddol 2 - gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Ymarfer Ukulele ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 yn ystod amser cinio.
Cwis 'Keep Me Safe'.
Dydd Iau:
Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mawrth.
** Cystadleuaeth Bonet Pasg - ysgol gyfan. **
Gweithdai Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Diwrnod ola'r tymor. Byddwn yn gorffen heddiw ar gyfer pythefnos o wyliau. Byddwn yn dechrau'n ôl yn yr ysgol ar ddydd Llun, Ebrill 16eg.
Dydd Gwener:
Gŵyl y Banc. Fydd dim ysgol i'r disgyblion heddiw.
Mwynhewch y gwyliau Pasg.
Diolch.