Casgliad Wyau Pasg:

26th March 2018
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu wyau Pasg.
Dros yr wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn casglu wyau Pasg, tuniau a nwyddau ymolchi i'r banc bwyd lleol. Daeth Tony Rosser o Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth i gasglu'r bwyd prynhawn 'ma ac roeddwn yn falch iawn o allu rhoi 192 o wyau Pasg iddo.
Diolch yn fawr iawn i bawb a diolch i'r Cyngor Ysgol am drefnu'r digwyddiad.