Trefniadau'r Wythnos:
15th April 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Fydd dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **
Os ydych chi eisiau i'ch plentyn dderbyn darn o ffrwyth yn ddyddiol, y gost ar gyfer yr hanner tymor hwn yw £6.
Dydd Llun:
Bydd y disgyblion yn ail ddechrau'n yr ysgol heddiw.
Dydd Mawrth:
Cystadleuaeth pêl-droed Cwmbrân Shopping yn Stadiwm Cwmbrân.
Dydd Mercher:
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Ymarfer Ukulele ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 yn ystod amser cinio.
Dydd Iau:
Cystadleuaeth Pêl-droed a Rygbi Tag yr Urdd yng Nghwm Rhymni.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Dydd Gwener:
Bydd yr Arweinwyr Digidol yn treulio'r prynhawn yn Ysgol Bryn Onnen ar gyfer gweithdy codio.
Diolch.