Trefniadau'r Wythnos:
19th April 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Calfari.
Byddwn yn gwrando ar 'Erbyn hyn' a 'cuddio'.
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Yn fy marn i, .... '
Dydd Llun:
Awr heb drydan rhwng 11 a 12 ar gyfer Diwrnod y Ddaear. (World Earth Day)
Dydd Mawrth:
** Lluniau dosbarth / timoedd. **
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)
Cogurdd: Bydd dau ddisgybl o flynyddoedd 5 a 6 yn cymryd rhan yn rownd nesaf Cogurdd yng Nghwm Rhymni rhwng 3:45 a 6.
Cyfarfod C.Rh.A - llyfrgell yr ysgol am 3:30.
Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Cystadleuaeth Hoci i ddisgyblion blwyddyn 6. (3 - 4:45 yn Stadiwm Cwmbrân) Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.
Dydd Iau:
Cystadleuaeth bêl-droed 7 bob ochr i ferched yn Stadiwm Cwmbrân.
Gweithdai Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Bydd cynrychiolwyr o 'Bronafon' yn ymweld â dosbarth Miss H Williams heddiw.
Beirniadu cystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Dydd Sadwrn:
Arddangosfa o waith buddugol Celf a Chrefft yr Urdd – Neuadd y Methodistiaid, Y Coed Duon rhwng 10 a 2
Diolch.