Prynhawniau lles:
2nd May 2018
Y thema ar gyfer ein prynhawn lles cyntaf oedd hawliau plant.
Bob pythefnos, byddwn yn cynnal prynhawn lles yn yr ysgol. Bob tro, byddwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o iechyd a lles.
Fel rydych efallai’n gwybod yn barod, mae’r cwricwlwm yng Nghymru yn mynd trwy’r broses o
newid ar hyn o bryd. Mae’r Athro Graham Donaldson wedi cynnal arolwg o’r cwricwlwm presennol ac
mae wedi cynnig argymhellion ar gyfer cwricwlwm newydd.
Mae’r ysgol yn rhan o’r grŵp sy’n llunio’r cwricwlwm iechyd a lles ac mae hwn yn gyfle gwych i ni weld
unrhyw newidiadau a datblygiadau i’r cwricwlwm newydd cyn y mwyafrif o ysgolion. Yn sgil hyn,
rydym yn gallu gweld faint o bwyslais sy’n mynd i fod ar iechyd a lles y disgyblion gyda’r cwricwlwm
newydd ac rydym yn gyffrous iawn am y newidiadau hyn.
Prynhawn 'ma, roedd y disgyblion i gyd yn dysgu am hawliau plant ac roedd gweithgareddau gwahanol yn mynd ymlaen ym mhob dosbarth. (Gweler cyfrif Twitter yr ysgol am luniau.)
Os hoffech chi ddysgu mwy am hawliau plant, ewch i'r wefan isod.
Diolch.