Gweithdai Clocsio:
25th June 2018
Cafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 weithdai clocsio yn yr ysgol heddiw.
Daeth Tudur Phillips i'r ysgol i gynnal gweithdai clocsio gyda disgyblion o flynyddoedd 5 a 6. Dysgodd y disgyblion am hanes clocsio a chafodd pawb tro yn clocsio ac yn gwneud rhai o'r triciau mwy cymhleth.
Diolch yn fawr i Tudur; roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.
Diolch.