Prynhawn Lles:

4th July 2018
Thema ein prynhawn lles heddiw oedd pobl sy'n ein helpu:
Daeth nifer o bobl i'r ysgol prynhawn 'ma er mwyn trafod eu gwaith yn y gymuned leol.
Daeth Claire o Dogs Trust i gynnal gweithdy gyda plant y feithrin.
Derbyniodd plant y derbyn weithdy gan Claire hefyd, yn ogystal ag ymweliad gan wirfoddolwyr o Orsaf dân Cwmbrân.
Daeth gweithwyr o Pets at Home at blant blwyddyn 1.
Cafodd dosbarthiadau blwyddyn 2 ymweliad gan Kate, Swyddog Diogelwch Ffordd Torfaen.
Daeth Mr Rosser i drafod gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn y gymuned leol gyda disgyblion blwyddyn 3.
Cafodd disgyblion blwyddyn 4 ymweliad gan Anthony Jones o'r RNLI.
Daeth Sarah Lles o'r GIG i drafod eu gwaith gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Diolch yn fawr i bawb am drafod eu gwaith gyda'r disgyblion ac am ddangos pwysigrwydd y gweithle a gofalu am ein cymuned leol a'r bobl ynddi.
Diolch yn fawr.