Trefniadau'r Wythnos:

5th July 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Dyma fydd yr wythnos olaf ar gyfer clybiau ar ôl ysgol. **
Dydd Llun:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer diwrnod o Fabolgampau heddiw.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad chwaraeon. Bydd angen pecyn cinio, digon o ddwr ac eli haul ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Dydd Mawrth:
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 2. (3:30 - 4:30)
Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
** Gwasanaeth disgyblion blwyddyn 5 **
09:30 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 rhwng 3:30 4:30.
Cystadleuaeth hoci ar ol ysgol - 3-5 yn Stadwim Cwmbrân.
Dydd Iau:
Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4.
Clwb natur yn ystod amser cinio.
Bydd plant blwyddyn 2 yn mynd i Jambori'r Urdd heddiw.
(Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)
Bydd nyrs yr ysgol yn siarad gyda merched blwyddyn 5 a merched a bechgyn blwyddyn 6 heddiw.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers beicio diogel disgyblion blwyddyn 6 yn ystod oriau ysgol. Prawf beicio - 1:30.
Cyngerdd ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish - gall rieni / gwarchodwyr ymuno gyda ni. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar iard Cyfnod Allweddol 2 ar ddiwedd y dydd. (50c yr un)
Diolch.