Cystadleuaeth gelf y GIG:
6th July 2018
Llongyfarchiadau mawr i un o'n disgyblion am ennill cystadleuaeth gelf y GIG.
Fel rhan o ddathliadau 70 mlynedd o'n Gwasanaeth Iechyd, gosodwyd her o ddarlunio'r GIG yn y dyfodol. Cawsom wybod bythefnos yn ol mai un o ddisgyblion blwyddyn 6 oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth. Roedd hi'n ddigon ffodus i fynd i wasanaeth wobrwyo yng Nghadeirlan Llandaf nos Fercher gyda Carwyn Jones a Thywysog Cymru.
Llonyfarchiadau mawr; rydyn ni gyd yn falch iawn ohoni.