Trefniadau'r Wythnos:
12th July 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Dyma'r wythnos olaf cyn gwyliau'r haf. Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon. **
Dydd Llun:
Taith diwedd blwyddyn disgyblion o flynyddoedd 5 a 6.
Bydd angen i'r disgyblion wisgo crys-T ysgol a gwaelodion cyfforddus ar gyfer dringo.
Dydd Mawrth:
Disgo y Gymdeithas Rieni ac Athrawon.
6 yn neuadd yr ysgol.
Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn cerdded i Thestr y Congress i weld perfformiad Gwynllyw o 'Dal Sownd' bore 'ma. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.
Cyfarfod blynyddol y Gymdeithas Rieni.
3:30 yn llyfrgell yr ysgol - croeso i bawb.
Dydd Iau:
Gwasanaeth gadael disgyblion blwyddyn 6 - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Bowlplex, Cwmbrân ar ôl ysgol heddiw. (4:30 - 6)
Byddwn yn cwrdd â'r disgyblion yno am 4:30.
Dydd Gwener:
Heddiw yw'r diwrnod olaf cyn gwyliau'r haf - byddwn yn gorffen ar yr amser arferol.
Bydd y Gymdeithas Rieni yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c)
Diolch yn fawr i chi gyd am eich cefnogaeth eleni. Mwynhewch y gwyliau haf ac fe welwn ni chi ar ddydd Mawrth, Medi'r 4ydd.
Diolch.