Cwrs beicio'n ddiogel, 2018:
13th July 2018
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 6 am gwblhau'r cwrs beicio'n ddiogel.
Cymerodd saith disgybl ran yn y cwrs beicio eleni ac mae'r disgyblion wedi gweithio'n galed iawn dros yr wythnosau diwethaf. Heddiw, profwyd pob un a llwyddodd bob un i basio'r prawf. Rydym yn falch iawn ohonynt i gyd.
Da iawn!