Cyngerdd ffidil blwyddyn 2:
13th July 2018
Roedd hi'n hyfryd i weld dosbarth Mrs Dalgleish yn perfformio heddiw.
Mae plant blwyddyn 2 Mrs Dalgleish wedi derbyn gwers ffidil wythnosol yn ystod y tymor a hanner diwethaf. Heddiw, cymerodd y disgyblion ran mewn cyngerdd i ddangos yr hyn roeddent wedi'i ddysgu yn y misoedd diwethaf. Roedd hi'n hyfryd i weld y plant yn perfformio mor hyderus.
Os hoffech chi i'ch plentyn dderbyn gwers ffidil neu wers unrhyw offeryn arall, cysylltwch yr ysgol.
Diolch.