Parti Ponty, 2018:
15th July 2018
Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o blant a'u rhieni ym Mharti Ponty ym Mhontypridd ddoe.
Teithiodd dros 60 o bobl ar fws o'r ysgol i Bontypridd ddoe. Roedd nifer o stondinau, pebyll a bandiau'n chwarae ar strydoedd Pontypridd, digwyddiad a drefnwyd gan Menter Iaith.
Uchafbwynt y cyfan oedd gwylio'r Candelas yn chwarae yn y sgwâr. Roedd hi'n hyfryd gweld y disgyblion yn canu a dawnsio ar y cyd gyda'u rhieni i ganeuon y Candelas.
Diolch yn fawr iawn i Miss Davies am drefnu'r digwyddiad ac i Jo Lewis a Chlwb Plant y Tri Arth am dalu am y bws.
Diolch yn fawr iawn.