Diwrnod Sbardun Cyfnod Allweddol 2:
10th September 2018
Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi mwynhau dysgu am gynefinoedd gwahanol heddiw.
Mae'r disgyblion wedi ymweld â saith dosbarth gwahanol ac maen nhw wedi dysgu am gynefin gwahanol ym mhob dosbarth. Maen nhw wedi dysgu am gynefinoedd o'r Arctig i'r traeth, o'r goedwig law i'r jyngl ac o dan y ddaear i fynyddoedd.
Bydd y disgyblion yn astudio gwahanol gynefinoedd yn ystod yr wythnosau nesaf yn rhan o'r prosiect 'Rhannu'r Blaned'.
Mae'r disgyblion wedi gweithio'n galed iawn heddiw - da iawn i bawb.